header

Gwybodaeth amdanom – ers 1975 bûm yn rhoi gwrandawiad i bobl a’u cadw mewn cysylltiad â’i gilydd, beth bynnag y bo’r angen.

Mae'r sîn hoyw ym Mhrydain wedi ei hen sefydlu ers peth amser ac mae Brighton wedi chwarae rhan allweddol yn hanes y diwylliant hoyw ym Mhrydain. Bellach mae'n un o'r prif gyrchfannoedd ym Mhrydain ar gyfer hoywon ac yn meddu ar boblogaeth hoyw sylweddol.

Ers 26 Ebrill, 1975 mae Switsfwrdd Lesbiaid a Hoywon Brighton wedi darparu gwasanaeth i'r cymunedau lesbiaidd a hoyw. "Y Llinell Lafant Hoyw" oedd ei henw gwreiddiol fel nad oedd rhaid i alwyr gyhoeddi eu rhywioldeb. Heddiw, fe amcangyfrifir bod y gymuned hoyw a lesbiaidd yn Brighton yn cynnwys oddeutu 35,000 o bobl (13% o gyfanswm y boblogaeth) a'r dref yw un o'r rhai mwyaf derbyngar tuag at hoywon ym Mhrydain. Mae'r Switsfwrdd yn cynnig gwasanaeth unigryw wedi ei reoli yn y gymuned ei hun gan ystod o lesbiaid a dynion hoyw cyffredin sy'n meddu ar y sgiliau i wrando.

Yr ydym ar agor gyda’r nos rhwng 5yh a 11yh ac yn derbyn dros 5,000 o alwadau y flwyddyn, ac mae ein gwefan yn trin 70,000 o ymwelwyr y flwyddyn, gan roi gwrandawiad i bobl a’u cadw mewn cysylltiad â’i gilydd, beth bynnag y bo’r angen.

Darperir gwasanaeth llinell gymorth cyfrwng Saesneg yn unig gan y Switsfwrdd sy'n ymwneud ag ystod eang o bynciau, boed hynny a wnelo â chymdeithasu, â'r broses o gydnabod eich bod yn hoyw, neu â chael gwybodaeth ynglyn â rhywbeth, ac mae siarad gyda derbynydd sydd naill ai yn lesbian neu'n hoyw yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n galwyr. Gall ystod y gwybodaeth sydd gan derbynwyr y Switsfwrdd i'w gynnig gynnwys rhestrau o westai hoyw sydd yn yr ardal, dyddiad Balchder Brighton/Brighton Pride neu gyngor ynglyn â sut i ddod i delerau â'ch rhywioldeb neu eich statws FID(HIV). Yn aml mae unigolion yn ceisio gwybodaeth mewnol ynglyn a'r sîn lesbiaidd a hoyw yn Brighton, neu ni wyddant yn iawn lle i fynd i ddarganfod yr hyn y maent yn chwilio amdano: er enghraifft, darganfod llety sy'n dderbyngar o lesbiaid/hoywon. Hwyrach mai dim ond eisiau sgwrsio gyda rhywun mae'r galwr ac nid yw'n sicr lle i droi nesaf. Dyma ein diben.

At hyn, cynigir pedwar prif wasanaeth gan y Switsfwrdd. Llinell gymorth a gwasanaeth e-bost y gellir e-bostio ymholiadau ato, cliciwch fan hyn os gwelwch yn dda. Yn ogystal, cynigir gwasanaeth sy'n helpu pobl i leoli ystafell i'w rhentu neu i'w gosod. Darperir cyfrwng diogel a dibynadwy o gysylltu â phobl sy'n dderbyngar o hoywon a lesbiaid neu bobl â FID(HIV) ac sy'n cynnig gosod llety am gyfnod tymor hir (3 mis neu'n fwy)yng nghyffiniau Brighton a Hove. Cysylltwch â'r Switsfwrdd trwy ffôn a byddant ond yn rhy barod i drosglwyddo unrhyw fanylion i chwi.

Gallem gynnig gwasanaeth cynghori un-i-un gyda phobl broffesiynol, sydd naill ai yn lesbiaid neu'n hoywon eu hunain, ar gyfer unigolion neu bartneriaid gyda'r nod o gyflawni anghenion pobl hoyw a lesbiaid.

Gallwch gysylltu â'r Switsfwrdd rhwng 5yh ac 11yh bob nos a dydd ac ymdrinir â phob galwad a dderbynnir gan y Switsfwrdd yn gyfrinachol.

Gwefan Saesneg
2006 © Brighton Lesbian and Gay Switchboard.
Registered Charity No 1088133.